Lleoliad:
Committee Room 3
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Chwefror 2017
Amser:
09.05 -
14.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3848
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Carl Sargeant AC Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Steve Thomas, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Jonathan Lloyd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dr Stephen Monaghan, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru Andrew Cross, Cymdeithas Feddygol Prydain Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Brenhinol y Nyrsys Peter Meredith-Smith, Royal College of Nursing Wales Lien Watts, The Social Workers Union Margaret Thomas, Wales TUC Martin Mansfield, Wales TUC |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC.
1.3. Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiant perthnasol fel aelodau o undebau:
· John Griffiths AC;
· Jenny Rathbone AC;
· Joyce Watson AC;
· Rhianon Passmore AC;
· Siân Gwenllian AC.
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
· Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
· Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymunedau
2.2. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu:
· Ffigurau bras yn dangos sut y bydd cronfa etifeddiaeth Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei rhannu rhwng awdurdodau lleol gan ddangos hefyd sut y cafodd y ffigurau eu dadansoddi;
· Nodyn am lwyddiant Cymru ym maes trechu tlodi o’i chymharu â gwledydd eraill, a’r Alban yn benodol;
· Esboniad o fanylion y drefn adrodd yng nghyswllt y dangosyddion statudol a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru);
· Nodyn ar y data a ddefnyddiwyd i werthuso llwyddiant Cymunedau yn Gyntaf ac i gynllunio’r cyfnod pontio a’r dull newydd o weithredu, gan gynnwys y dangosyddion presennol a’r dangosyddion a ddefnyddir yn y dyfodol.
3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â materion a godwyd yn ystod y sesiwn.
5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Steve Thomas, Prif Weithredwr, Llywodraeth Leol Cymru,
· Jonathan Lloyd, Pennaeth Cyflogaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dr Stephen Monaghan, Cadeirydd Is-bwyllgor Deddfwriaeth Cyngor BMA Cymru
· Mr Andrew Cross, Ysgrifennydd Cynorthwyol, BMA Cymru
· Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr Cyswllt
· Lisa Turnbull, Cynghorwr Polisi a Materion Cyhoeddus, y Coleg Nyrsio Brenhinol
· Lien Watts, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol
7.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Margaret Thomas, Is-lywydd, TUC Cymru
· Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru
8.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y materion a godwyd yn y sesiwn graffu ar 2 Chwefror 2017.
8.2. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol am Clearsprings Ready Homes Ltd mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
9.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
10.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5, 6 a 7.